LLOGI
YSTAFELLOEDD
Mae modd llogi neuadd neu ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau cymunedol, digwyddiadau preifat, cyfarfodydd a chynadleddau.
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael o ran cynllun yr ystafell, gan gynnwys arddull theatr, byrddau a chadeiriau i leoliadau cynadledda llawn.
Os ydych angen darparu bwyd, mae cegin newydd ar gael, ar gyfer lluniaeth, byrbrydau ysgafn, bwffe a phrydau eistedd i lawr.
Mae ein gwirfoddolwyr cyfeillgar a phrofiadol yn ymroddedig i wneud yn siŵr bod pob digwyddiad, o bartïon pen-blwydd teuluol, dosbarthiadau ymarfer corff i wleddoedd yn cael eu rheoli’n broffesiynol, gan sicrhau llwyddiant llwyr. Wi-Fi am ddim drwyddo draw.
Ar agor: 9yb – 6yh.
Eisiau'r Neuadd ar ôl 6yh? Mae modd trafod hyn gyda'r clerc (07483134142).
Galeri
"Hawdd iawn oedd bwcio'r Neuadd drwy'r clerc. Defnyddiais y Neuadd gyfan i ‘Sesiwn steilio gwallt Mam a'i phlentyn a Te Prynhawn'. Mae’r Neuadd yn gallu ei rannu i dri 'stafell arwahan, felly defnyddiais ystafell Braint a Siglan i'r sesiwn steilio a Rhyd Eilian ar gyfer y Te Prynhawn. Mae’r Neuadd Goffa wedi ei hadnewyddu i safon gwych, darnau gwreiddol a twist modern, gyda digon o lestri yno i eistedd 80. Mi fyswn yn argymell y Neuadd ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, busnes neu bersonol."
Sara Roberts Hair